Mae Brenhines Loegr wedi rhoi caniatâd i gorff y plismon a gafodd ei ladd gan Khalid Masood y tu allan i San Steffan fis diwethaf i orffwys ym Mhalas Westminster cyn ei angladd ddydd Llun.

Cafodd Keith Palmer, 48, ei drywanu i farwolaeth wrth iddo warchod y Senedd ar ddiwrnod yr ymosodiad.

Mae gorwedd yn y capel yn anrhydedd sydd fel arfer yn cael ei rhoi i arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys Margaret Thatcher a Tony Benn.

Bydd corff Keith Palmer yn cyrraedd y capel am 2 o’r gloch y prynhawn yma, wedi’i dywys gan osgordd Heddlu Llundain.

Bydd gwasanaeth preifat yn cael ei gynnal heddiw, a’i angladd heddlu llawn yn cael ei gynnal yfory yn Eglwys Gadeiriol Southwark.

Mae disgwyl i filoedd o blismyn fod yn Llundain yfory ar gyfer yr angladd.

Ymosodiad

Cafodd pedwar o bobol eraill eu lladd yn yr ymosodiad ar Fawrth 22.

Bu farw Andreea Cristea (31), Leslie Rhodes (75), Kurt Cochran (54) ac Aysha Frade (44).

Cafodd Khalid Masood ei saethu’n farw gan yr heddlu.