Jeremy Corbyn
Mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi condemnio ymosodiad America ar Syria, gan ddweud ei fod  “mewn peryg o waethygu’r rhyfel” yno.

Yn ôl Jeremy Corbyn fe allai penderfyniad Donald Trump, Arlywydd America, i danio taflegrau at faes awyr yn Syria waethygu rhyfel yn y wlad sydd eisoes wedi lladd cannoedd o filoedd o bobol.

Mae  Arweinydd y Blaid Lafur wedi galw ar Lywodraeth Prydain i bwyso ar Donald Trump i drafod ffyrdd o sicrhau heddwch yn Syria.

Ond mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi dweud bod y bomio yn “ymateb priodol” i’r ffaith fod Arlywydd Syria wedi lladd dros 80 o bobl gydag arfau cemegol ddydd Mawrth yr wythnos hon.

Dywedodd Jeremy Corbyn: “Mae ymosodiad taflegrau America ar safle awyr Llywodraeth Syria mewn peryg o waethygu’r rhyfel yn Syria a’i gwneud yn waeth.

“Roedd ymosodiad cemegol ddydd Mawrth yn drosedd rhyfel sy’n galw am ymchwiliad annibynnol brys gan y Cenhedloedd Unedig ac mae angen i’r rhai sy’n gyfrifol fod yn atebol.

“Ond mae gweithredu yn filwrol heb awdurdod cyfreithiol neu gadarnhad annibynnol yn peryglu gwaethygu cyflafan amlochrog sydd eisoes wedi lladd cannoedd o filoedd.”