(Llun: Gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Mae ffrae wedi dechrau rhwng Eglwys Loegr a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwmni Cadbury dros enw helfa wyau Pasg y sefydliad.

Fe fydd Helfa Wyau Cadbury yn cael eu cynnal ar nifer o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol eleni, ond mae’r sefydliad wedi ei feirniadu am beidio â chynnwys y gair ‘Pasg’ yn enw’r helfa.

Mae Cadbury yn mynnu bod y term ‘Pasg’ wedi ei gynnwys mewn deunydd hysbysebu ond mae llefarydd ar ran Eglwys Loegr wedi cyhuddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o “ddiweddaru’r” deunydd dros nos.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,  mae nifer o gyfeiriadau at y Pasg ar eu gwefan a “nonsens” yw’r cyhuddiadau.

Mae Archesgob Caer Efrog, Dr John Sentamu, wedi cyhuddo Cadbury – cwmni a gafodd ei sefydlu gan Grynwr yn 1824 – o “boeri ar fedd” eu sylfaenydd.

Wrth siarad yn ystod ei hymweliad a Gwlad yr Iorddonen dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, bod y penderfyniad yn “hollol chwerthinllyd.”