Mae cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yn Stormont heddiw i geisio adfer Llywodraeth Gogledd Iwerddon.

Ar hyn o bryd, mae un o brif weision sifil y llywodraeth wedi cymryd rheolaeth dros y cyllid wedi i Sinn Fein a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) fethu â dod i gytundeb dros rannu pwerau’r wythnos diwethaf.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, James Brokenshire, wedi rhybuddio y bydd yn rhaid cynnal etholiad brys os na fydd y pleidiau’n llwyddo i ddod i gytundeb.

Dywedodd nad oedd am alw etholiad arall nac am weld Gogledd Iwerddon yn dychwelyd i reolaeth Llundain, ond fod yn rhaid iddo ‘gadw’i opsiynau’n agored’.

Ffrae Ynni Gwyrdd

Daw’r anghytundeb yn dilyn yr etholiad ddechrau Mawrth a welodd y blaid DUP yn colli eu mwyafrif yn y llywodraeth.

Ond mae Sinn Féin wedi rhybuddio na fyddan nhw’n derbyn arweinydd y DUP, Arlene Foster, fel Prif Weinidog i Ogledd Iwerddon tan y bydd ymchwiliad cyhoeddus i’r cynllun ynni gwyrdd wedi’i gwblhau.

Ym mis Ionawr, fe wnaeth y diweddar Martin McGuinnes oedd yn ddirprwy Brif Weinidog ymddiswyddo mewn protest yn erbyn y modd y gwnaeth y DUP ddelio â’r cynllun ynni gwyrdd ac maen nhw hefyd yn anghydweld ar faterion yn ymwneud â Deddf yr Iaith Wyddeleg.