Mae’r cwmni egni, Ineos, wedi taro bargen â BP er mwyn prynu pibellau olew Forties ym Môr y Gogledd am $250m (£199m).

Mae’r ddêl yn cynnwys terfynnell Kinneil ac yn golygu mai Ineos fydd yn gyfrifol wedyn am bron i 40% o’r olew a’r nwy sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.

Fe gafodd pibell y Forties ei hagor yn 1975 gan BP, a heddiw mae’n cynnwys mwy na 100 milltir o bibellau gyda’r gallu i symud 575,000 casgen o olew y dydd o Fôr y Gogledd a Norwy.

“Mae Môr y Gogledd yn dal i gynnig cyfleoedd newydd i Ineos,” meddai cadeirydd y cwmni, Jim Ratcliffe.

“Mae’r Forties yn ased strategol… mae ganddon ni brofiad o brynu asedau fel hyn a’u gwella nhw, gan sicrhau swyddi a buddsoddiad tymor hir.”

Dan y drefn newydd, fe fydd Ineos yn talu $125m i BP wrth arwyddo’r cytundeb, a $125m pellach dros saith mynedd.

Mae’r Forties yn cyflogi tua 300 o staff yn Kinneil, Falkirk, Dalmeny, Aberdeen ac allan yn y môr.