Canghellor San Steffan, Philip Hammond (Llun: PA)
Mae Canghellor San Steffan, Philip Hammond yn teithio i India ar gyfer taith fasnach wrth i Lywodraeth Prydain geisio magu perthnasau newydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Daw’r daith ar ddiwedd wythnos pan gafodd Erthygl 50 ei danio er mwyn dechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Philip Hammond yn mynd i Delhi a Mumbai yn ystod ei daith i geisio tynnu sylw at y cyfleoedd newydd a allai ddod i ran gwledydd Prydain yn sgil Brexit.

Yn ymuno â’r Canghellor ar y daith mae pennaeth Banc Lloegr Mark Carney, a nifer o weinidogion.

‘Curo drwm busnesau Prydain’

Dywedodd Philip Hammond ei fod e wrth ei fodd o gael “curo drwm busnesau Prydain” yn ystod y daith.

“Dw i’n benderfynol o greu Prydain fyd-eang go iawn, gan estyn allan a hyrwyddo’r gorau o’r hyn sydd gyda ni i’w gynnig.

“Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd a dechrau ar gyfnod newydd cyffrous yn ein hanes economaidd, mae ceisio rhoi hwb i’n masnach a’n buddsoddiadau y tu hwnt i ffiniau Ewrop a chryfhau ein perthnasau gydag economïau mwyaf bywiog y byd yn bwysicach nag erioed.”

India

Ychwanegodd Philip Hammond mai Prydain yw partner ariannol “perffaith” India.

“Mae ein marchnadoedd arloesol wedi helpu i gynnal datblygiad dosbarthiadau cynnyrch newydd sbon megis bondiau masala a fydd yn cynnal trawsnewidiad India.”