Mae rali gan Britain First a’r English Defence League yn Llundain wedi arwain at derfysg ar ôl i brotestwyr ddangos eu dicter.

Roedd y grwpiau’n disgrifio’r rali fel “gorymdaith yn erbyn brawychiaeth”, ac roedd wedi’i gynnal yn agos i ddigwyddiad oedd wedi’i drefnu gan fudiad Unite Against Facism.

Dechreuodd yr ymladd wrth i gyn-arweinydd yr EDL, Tommy Robinson gyrraedd.

Fe ddywedodd wrth y protestwyr fod yn gas ganddyn nhw “ryddid barn”.

Yn ôl Scotland Yard, mae 14 o bobol wedi cael eu harestio.

Daw’r gwrthdaro ychydig dros wythnos ar ôl yr ymosodiad brawychol ger San Steffan, pan gafodd pedwar o bobol eu lladd gan Khalid Masood.