NIcola Sturgeon a Carwyn Jones mewn cyfarfod Brexit - y ddau'n rhannu rhai pryderon (Stefan Rousseau PA)
Dyw cyhoeddi Papur Gwyn ar y Mesur Diddymu Mawr i adael yr Undeb Ewropeaidd ddim wedi tawelu ofnau Llywodraeth yr Alban y bydd Llywodraeth Prydain yn ceisio mynd â grym oddi arnyn nhw yn sgil Brexit.

Gan godi’r un pwyntiau â Llywodraeth Cymru, mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi dweud bod bygythiad o hyd i rymoedd sydd eisoes wedi eu datganoli.

Fe ddywedodd ei bod wedi trafod y pwnc gyda Phrif Weinidog Prydain Theresa May yr wythnos hon ond nad oedd hi na neb arall o blith y Ceidwadwyr yn fodlon rhoi sicrwydd y bydd grymoedd mewn meysydd fel amaeth a physgodfeydd yn dod o Frwsel i Gaeredin yn hytrach na Llundain.

Amau

“Mae hynny’n gwneud i fi amau mai’r hyn y mae’r Ceidwadwyr yn ei gynllunio mewn gwirionedd yw cipio grym oddi ar y senedd hon [yn yr Alban], ac fe fyddai hynny’n hollol annerbyniol,” meddai Nicola Sturgeon mewn dadl am adael Ewrop yn Senedd yr Alban.

Fe alwodd ar i aelodau o bob plaid wrthwynebu hynny, tra oedd y Gweinidog Brexit yn yr Alban yn dweud nad oedd dim grymoedd newydd go iawn i’r Alban yn y Papur Gwyn a bod bygythiad ynddo i bwerau fel amaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd, sydd wedi eu datganoli.

Dyna’r union feysydd y mae Llywodraeth Cymru’n brwydro trostyn nhw hefyd, gyda’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cymryd safiad tebyg mewn cyfweliad y bore yma.