Miloedd yn ymgynnull ar Bont Westminster i gofio'r rhai fu farw yn ymosodiad Llundain Llun: Anna Wojnilko/PA
Fe fu miloedd o bobol yn ymgynnull ar Bont Westminster y prynhawn yma fel arwydd o gryfder ac undod yn dilyn yr ymosodiad brawychol yn Llundain union wythnos yn ôl.

Roedd y bont ynghau i draffig a chafwyd munud o dawelwch am 2.40yp sef yr amser pan ddechreuodd yr ymosodiad  ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd tri o bobol eu lladd ar ôl i gar Khalid Masood, 52, eu taro ar y bont cyn iddo drywanu plismon i farwolaeth.

Cafodd y plismon Keith Palmer, 48, ei drywanu y tu allan i San Steffan,

Roedd swyddogion heddlu, a nyrsys a doctoriaid o ysbyty St Thomas – lle bu nifer o’r rhai gafodd eu hanafu eu trin – yn bresennol.

Roedd plant ysgol gydag arwyddion yn dweud “mae Islam yn dweud na wrth frawychiaeth” yn bresennol, ac roedd aelodau o gymdeithas ieuenctid Mwslimaidd hefyd yno i gefnogi.

Nod gwylnos ‘Dwylo ar Hyd Pont Westminster’ oedd uno pobol “o bob cenedl, crefydd a rhyw” at ei gilydd, yn ôl y sefydliad.

Cwestau

Yn y cyfamser cafodd y cwestau i farwolaethau’r Americanwr Kurt Cochran (54), Leslie Rhodes (75) ac Aysha Frade (44), a’r plismon Keith Palmer eu hagor a’u gohirio heddiw er mwyn i’r heddlu barhau a’u hymchwiliad.

Clywodd y cwest bod Kurt Cochran ac Aysha Frade wedi marw o’u hanafiadau ar y bont a bod Leslie Rhodes wedi cael eu gludo i’r ysbyty ond bu farw’r diwrnod canlynol yn dilyn anaf i’w ben.

Fe gadarnhaoedd Scotland Yard bod Keith Palmer yn gwisgo gwregys diogelwch pan gafodd ei drywanu yn ei frest, ond nad oedd yn ddigon i’w achub a bu farw ar y safle.

Cafodd Khalid Masood ei saethu’n farw gan heddlu arfog.

Roedd 35 o bobl eraill hefyd wedi’u hanafu yn yr ymosodiad – mae 12 yn dal i gael triniaeth yn yr ysbyty.