Mam Mark Duggan, Pam Duggan, a'i mab Marlon Duggan yn 2014 Llun: PA
Mae teulu Mark Duggan, 29, wedi colli her gyfreithiol yn erbyn dyfarniad y cwest i’w farwolaeth oedd yn dweud ei fod e wedi cael ei ladd yn gyfreithlon.

Roedd e wedi’i amau o fod ag arfau yn ei feddiant pan gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu mewn tacsi yng ngogledd Llundain yn 2011.

Arweiniodd ei farwolaeth at derfysgoedd drwy wledydd Prydain.

Penderfynodd yr Uchel Lys yn 2014 ei fod e wedi cael ei ladd yn gyfreithlon ac nad oedden nhw’n mynd i wyrdroi dyfarniad y rheithgor yn y cwest.

Roedd ei fam wedi gofyn i’r llys ddiddymu’r dyfarniad, ond doedd hi ddim yn gofyn am gwest o’r newydd.

Ond cafodd ei hapêl ei gwrthod heddiw.

Achos Mark Duggan

Roedd yr heddlu wedi bod yn dilyn y tacsi roedd Mark Duggan yn teithio ynddo ym mis Awst 2011.

Roedden nhw’n amau ei fod e wedi bod i gasglu dryll a bod ganddo’r arf yn y tacsi.

Penderfynodd y rheithgor fod Mark Duggan wedi gollwng y dryll ar laswellt ar ôl neidio o’r tacsi, ond roedd y plismon oedd wedi ei saethu’n credu bod yr arf yn dal yn ei feddiant.

Roedd cyfreithwyr ar ran y teulu’n dadlau bod dyfarniad y crwner wedi cael ei wneud ar gam ac ar sail tystiolaeth y plismon yn unig.

Ond doedd hynny ddim wedi effeithio’n ddigonol ar benderfyniad y rheithgor, yn ôl y Llys Apêl.