Plismon yn San Steffan wedi'r ymosodiad (Llun: Jonathan brady/PA Wire)
Fe fydd gwylnos yn cael ei chynnal ar bont Westminster heddiw, wythnos union ar ôl yr ymosodiad brawychol yn Llundain.

Cafodd tri o bobol eu lladd ar ôl i gar Khalid Masood eu taro ar y bont cyn iddo drywanu plismon i farwolaeth.

Fe fydd cwestau i farwolaethau’r Americanwr Kurt Cochran (54), Leslie Rhodes (75) ac Aysha Frade (44) yn agor heddiw.

Bydd cwest i farwolaeth Khalid Masood, 52, hefyd yn cael ei agor yn y llys yn Westminster.

Cafodd y plismon Keith Palmer, 48, ei drywanu y tu allan i San Steffan, ac mae disgwyl i’r heddlu gymryd rhan yn yr wylnos, sy’n dechrau am 2.15pm, yr amser y dechreuodd yr ymosodiad ddydd Mercher diwethaf.

500 o Fwslimiaid

Bydd munud o dawelwch am 2.40pm, ac mae disgwyl i hyd at 500 o Fwslimiaid gymryd rhan a gwisgo crysau T gyda’r neges “Mwslim ydw i, gofynnwch unrhyw beth i fi” arnyn nhw.

Bydd digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal ym Mangor heddiw, ac mae digwyddiadau hefyd wedi’u cynnal yn Abertawe a Chaerdydd dros y dyddiau diwethaf.

Mae Rohey Hydara, gweddw Khalid Masood, a’i fam Janet Ajao wedi beirniadu’r ymosodiad.

Mae Heddlu Scotland Yard yn dweud nad oes tystiolaeth i gysylltu Khalid Masood ag al-Qaida na Daesh, ond maen nhw’n dweud bod ganddo fe ddiddordeb mewn jihad.

Mae dau ddyn arall o Birmingham yn y ddalfa o hyd, ac mae gan yr heddlu tan fore Iau i’w holi.

Bydd angladd y plismon Keith Palmer, a gafodd ei drywanu ger San Steffan, yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Southwark ar Ebrill 10.