Arlene Foster Llun: PA
Mae cyfarfod yn Stormont heddiw gyda’r bwriad o enwebu gweinidogion newydd wedi cael ei ohirio.

Daw hyn wedi cyhoeddiad Sinn Fein nos Sul na fydden nhw’n enwebu Dirprwy Brif Weinidog yn y Cynulliad heddiw, ac roedd disgwyl canlyniad ynglŷn â hynny y prynhawn yma.

Mae’r ffocws nawr wedi symud at Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire, i weld a fydd e’n galw am etholiad brys arall petai’r dyddiad cau yn mynd heibio.

Ffrae cynllun ynni

Mae Sinn Fein wedi dweud na fyddan nhw’n rhannu pwerau ag arweinydd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP), Arlene Foster, tan y bydd ymchwiliad cyhoeddus i ffrae’r cynllun ynni gwyrdd yn cael ei gwblhau.

Mewn ymateb dywedodd Arlene Foster nad yw’n credu y byddai etholiad arall yn datrys unrhyw beth.

“Rydyn ni’n siomedig na ddaeth Sinn Fein i’r trafodaethau yn yr un hwyl ag y daethom ni i’r trafodaethau,” meddai.