Theresa May (Llun o'i chyfri Twitter)
Mewn araith cyn ei chyfarfod gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, heddiw fe fydd Theresa May yn rhoi addewid na fydd yn caniatáu i’r Deyrnas Unedig ddod yn “wannach” yn sgil Brexit.

Mae’r Prif Weinidog yn teithio i’r Alban heddiw ddiwrnod cyn  i Senedd yr Alban gynnal pleidlais ynglŷn â a chynnal ail refferendwm ar annibyniaeth, a deuddydd cyn iddi ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Theresa May yn defnyddio ei hymweliad ag Adran Ddatblygiad Rhyngwladol y DU yn East Kilbride i gyflwyno ei gweledigaeth i adeiladu Prydain gref a fydd yn chwarae rôl flaenllaw ar y llwyfan byd-eang.

Mae disgwyl iddi ddweud ein bod “yn sefyll ar drothwy moment allweddol i Brydain wrth i ni ddechrau’r trafodaethau a fydd yn ein harwain at bartneriaeth newydd gydag Ewrop.

“Ac rwy am ei gwneud yn hollol glir wrth i ni symud drwy’r broses hon nad yw hyn, mewn unrhyw ystyr yn foment pan fydd Prydain yn camu nôl o’r byd.

“Ry’n ni am gymryd y cyfle hwn i adeiladu Prydain mwy rhyngwladol.”

Ychwanegodd: “Yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon mae hynny’n golygu parchu, a chryfhau’r setliad datganoli. Ond byth yn caniatáu i’r Undeb ddod yn fwy llac ac yn wannach.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod gyda Nicola Sturgeon yn ddiweddarach.