Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, David Lidington wedi gwadu adroddiadau bod aelodau seneddol wedi bod yn galw am dynnu swyddogion arfog o’r tu allan i San Steffan.

Yn ôl adroddiadau, roedd aelodau seneddol yn teimlo bod cael swyddogion arfog y tu allan i’r Carriage Gates yn creu awyrgylch drwg.

Ar ôl yr ymosodiad brawychol yno ddydd Mercher, mae aelodau seneddol wedi galw am fwy o ddiogelwch wrth y giatiau ar Parliament Square ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi cael eu gadael ar agor heb fod unrhyw un yn eu gwarchod.

O’r fan honno y cafodd Prif Weinidog Prydain, Theresa May ei gweld yn cael ei thywys oddi yno ac i mewn i gar oedd yn aros amdani.

Gwadu honiadau

Dywedodd David Lidington wrth raglen Sunday Politics y BBC nad oedd yr honiadau am brotestiadau gan aelodau seneddol yn wir.

“Yr hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yw fod trefniadau diogelwch New Palace Yard wedi cael eu cryfhau mewn gwirionedd.

“Mae swyddogion arfog bob amser ar ystad ddiogel Palas Westminster, mae’n fater i awdurdodau diogelwch a’r heddlu a’r sawl sy’n rhoi gorchmynion yn benodol i benderfynu sut i’w defnyddio.”

Fe wadodd hefyd fod prinder swyddogion yn y Senedd ar y pryd.

Wrth gyfeirio at fideo oedd yn dangos y giatiau ar agor heb fod swydog yno i’w gwarchod, dywedodd David Lidington: “Dw i’n credu y bydd angen i ni edrych ar yr achos hwnnw fel rhan o edrych ar wersi sydd wedi cael eu dysgu.

“Ond yr hyn dw i ddim yn ei wybod eto, oherwydd fod yr heddlu’n parhau i gyfweld â phawb oedd ynghlwm neu oedd yn dystion neu’n blismyn, yw pwy yn union oedd yn sefyll ym mle yn ardal y llofruddiaeth ar adeg benodol.”

Camau diogelwch

Dywedodd llefarydd seneddol fod yr awdurdodau seneddol yn cynnal cyfres o gyfarfodydd arbennig yr wythnos nesaf i drafod camau diogelwch.

Un o’r camau sy’n cael eu hystyried, meddai’r Mail on Sunday, yw cyflwyno rhagor o swyddogion diogelwch y tu allan i’r Carriage Gates, a chyfyngu traffig i staff y senedd yn unig.