Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Ni ddylai strategaeth wrth-frawychiaeth Llywodraeth Prydain ganolbwyntio ar Fwslimiaid yn unig, yn ôl Jeremy Corbyn.

Yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, dylid ehangu’r strategaeth fel nad yw’r gymuned Foslemaidd yn teimlo fel pe baen nhw’n cael eu targedu’n annheg.

Dywedodd fod y strategaeth bresennol yn “wrth-gynhyrchiol” ac yn codi “amheuon” am y gymuned Foslemaidd gyfan yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd wrth raglen Peston on Sunday ar ITV fod angen diwygio’r strategaeth ar ôl ymosodiad brawychol Llundain ddydd Mercher.

“Dw i’n siarad â phobol yn y gymuned Foslemaidd, dw i’n siarad â phobol yn y mosg, dw i’n siarad â phobol yn yr eglwys, dw i’n siarad â phobol sy’n mynd i’r synagog, pob math o wahanol ffydd a gwahanol grwpiau.

“Dw i’n credu mai’r hyn y mae Prevent wedi’i wneud yn aml yw targedu’r gymuned Foslemaidd, neb arall, ac maen nhw’n dweud bod amheuon am y gymuned gyfan ac yn aml, mae hynny’n wrth-gynhyrchiol.”

Dywedodd fod Prevent yn “edrych ar y gymuned Foslemaidd yn unig”, er bod angen mynd i’r afael ag eithafiaeth, hiliaeth a neilltuo o bob math.

“Dw i’n dweud fod angen ei ehangu i fod yn agenda o gynhwysiant. Canolbwyntiwch ar bob cymuned.”