Douglas Carswell (Llun: Steve Punter/CCA2.0)
Dydy gwaith UKIP “ddim ar ben o bell ffordd”, yn ôl arweinydd y blaid, Nigel Farage.

Daw’r sylwadau ar ôl i Douglas Carswell, unig aelod seneddol y blaid cyn iddo eu gadael, ddweud bod UKIP wedi cyflawni eu nod ar ôl i wledydd Prydain benderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth cadarnhad y bydd Douglas Carswell yn parhau’n aelod seneddol annibynnol.

Dywedodd Nigel Farage: “Y pwynt am UKIP yw pa amodau fydd gyda ni wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Mae Nigel Farage yn mynnu bod y blaid eisoes wedi dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain yn y trafodaethau a fydd yn arwain at dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Nigel Farage wrth Sky News: “Mae ennill rhyfel yn bwysig iawn ond rhaid i chi ennill yr heddwch hefyd, ac mae’r heddwch ymhell o fod wedi’i ennill.”

Dywedodd fod yr hyn y mae UKIP wedi’i gyflawni’n “syfrdfanol”.

Is-etholiad

Ar hyn o bryd, does gan Douglas Carswell ddim bwriad i alw is-etholiad yn Clacton, gan fynnu y gall barhau i weithio’n annibynnol.

Ond mae noddwr UKIP, Arron Banks yn dweud y dylai alw is-etholiad, gan ddweud y byddai’n sefyll yn ei erbyn.

Mae Nigel Farage yn bwriadu gofyn i etholwyr Clacton a ydyn nhw am gynnal is-etholiad, gan dynnu sylw at addewid Douglas Carswell yn y gorffennol i ystyried camau o’r fath pe bai’r sefyllfa’n codi.