Mae 34 o bobol wedi’u hanafu, a dau ohonyn nhw’n ddifrifol, yn dilyn ffrwydrad yng Nghilgwri.
Cafodd sawl adeilad eu dymchwel gan yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel ffrwydrad nwy yn ardal Bebington neithiwr.
Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod dau o bobol mewn cyflwr difrifol, a bod 32 o bobol eraill yn cael triniaeth am fân anafiadau.
Cafodd oddeutu 20 o bobol eu symud o adeiladau cyfagos i eglwys leol, a chafodd 15 o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Mae nifer o ffyrdd ynghau yn yr ardal.