Dim ond Big Ben oedd i'w glywed yn y munud o dawelwch y prynhawn yma (Llun: PA )
Mae degau o filoedd o ymgyrchwyr gwrth-Brexit wedi bod yn gorymdeithio drwy ganol Llundain.

Wrth iddyn nhw ymgynnull yn Parliament Square y tu allan i’r senedd, dechreuodd y gweithgareddau gyda munud o dawelwch i gofio’r rhai a gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ddydd Mercher.

Trawiad Big Ben oedd yr unig beth i’w glywed wrth i’r holl orymdeithwyr blygu eu pen mewn tawelwch.

Roedd y sgwâr heulog yn llawn protestwyr, llawer ohonyn nhw wedi eu gwisgo mewn baneri Ewropeaidd, yn galw ar i Brydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ymhlith y siaradwyr roedd Alistair Campbell, pennaeth newyddion llywodraeth Tony Blair, Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg y cyn-ddirprwy Brif Weinidog, yr AS Llafur David Lammy a chyd-arweinydd y Blaid Werdd, Jonathan Bartley.

Roedd y trefnwyr wedi gwrthod gohirio’r digwyddiad ar ôl yr ymosodiad, gan ddweud mewn datganiad:

“Wnawn ni ddim cymryd ein bygwth. Byddwn yn sefyll mewn undod. Byddwn yn gorymdeithio tuag at graidd ein democratiaeth ac yn ail-hawlio ein strydoedd er anrhydedd a pharch y rheini a syrthiodd.”

Mae’r orymdaith yn cyd-ddigwydd â dathliadau 60 mlynedd yr Undeb Ewropeaidd yn Rhufain, lle mae aelodau’r 27 gwlad arall wedi bod yn trafod cynlluniau ar gyfer dyfodol yr Undeb heb Brydain.