Khalid Masood (llun: Heddlu Llundain/PA Wire)
Wrth i’r heddlu geisio ymchwilio i hanes Khalid Masood, parhau’n ddirgelwch mae sut y bu i’r dyn 52 oed a oedd yn wreiddiol o Gaint droi at eithafiaeth Islamaidd.

Ar ôl cyfres o gyrchoedd ledled Prydain, gan gynnwys yng nghartref mam yr ymosodwr ger Trelech yn Sir Gaerfyrddin, mae dau ddyn – 27 a 58 oed a gafodd eu harestio yn Birmingham – yn dal yn y ddalfa.

Nid yw’n glir a oedd Khalid Masood yn gweithredu ar ei ben ei hun neu a oedd ganddo rwydwaith o gefnogwyr.

Mae lle i gredu y gallai Adrian Elms, fel yr arferai gael ei adnabod, fod wedi troi at Islam yn ystod un o’i gyfnodau mewn carchar. Posibilrwydd arall yw i gyfnod yn Saudi Arabia, lle bu’n gweithio am gyfnod, ddylanwadu arno.

Cymhellion

Dywedodd pennaeth gwrthderfysgaeth Scotland Yard, Mark Rowley, fod ar dditectifs eisiau deall ei gymhellion ac a oedd wedi gweithio’n gyfan gwbl ar ei ben ei hun, wedi ei ysbrydoli gan bropaganda, neu a oedd eraill wedi ei annog, ei gefnogi neu ei gyfarwyddo.

Mae ditectifs wedi cymryd 2,700 o eitemau o’r chwiliadau dros y ddeuddydd diwethaf, ac wedi siarad gyda 3,500 o dystion.

“Hoffem glywed oddi wrth unrhyw un a oedd yn adnabod Khalid Masood yn dda, yn deall pwy oedd ei gymdeithion, ac a all roi gwybodaeth inni am leoedd yr ymwelodd â nhw yn ddiweddar,” meddai Mark Rowley.

“Gallai’n hawdd fod yna bobl a oedd â phryderon am Masood ond nad oedden nhw’n siwr neu ddim yn teimlo’n gysurus am ryw reswm neu’i gilydd i roi’r wybodaeth inni.”