San Steffan wedi'r ymosodiad yr wythnos yma (llun jonathan brady/PA Wire
Mae lluniau fideo wedi dod i’r amlwg o giatiau allanol San Steffan yn llydan agored wedi’r ymosodiad ddydd Mercher.

Wrth i heddlu arfog chwilio o gwmpas New Palace Yard lle cafodd yr heddwas Keith Palmer ei lofruddio, nid oes neb i’w gweld yn gwarchod y giât agored y gall cerbydau fynd drwyddi.

Y pryder yw y gallai’r ymosodiad fod wedi bod yn llawer gwaeth petai gan Khalid Masood eraill yn cydweithio ag ef.

Mae lluniau i’w gweld o gerddwyr yn mynd heibio ac mae’n ymddangos fod beiciwr modur yn mynd i mewn drwy’r giât heb i neb ei holi.

Dywedodd cyn gomisiynydd Heddlu Llundain, yr Arglwydd Blair, fod yn rhaid gwella trefniadau diogelwch.

“Dw i’n sicr y bydd rhaid cael newidiadau i’r cylch diogelwch allanol meddal,” meddai. “Er bod cnewyllyn mewnol o heddlu arfog, mae Pc Keith Palmer wedi talu gyda’i fywyd am yr ymyl allanol meddal hwnnw.”