Mae grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi dweud fod yr ymosodwr ar San Steffan ddoe yn “filwr i’r Wladwriaeth Islamaidd”.

Fe ddaeth y cyhoeddiad drwy eu hasiantaeth newyddion, Aaamaq, ac mae Heddlu’r Met newydd gyhoeddi mai ei enw oedd Khalid Masood, 52.

Roedd wedi’i eni yng ngwledydd Prydain ac yn hysbys i’r heddlu, yn ôl Theresa May, Prif Weinidog Prydain, a gyhoeddodd hynny yn ei haraith yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Datgelodd Theresa May fod yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch wedi cynnal ymchwiliadau iddo rai blynyddoedd yn ôl am eithafiaeth dreisgar.

Dywedodd ei fod yn ffigwr “ymylol” ac nad oedd yn rhan o’r “darlun cudd-wybodaeth gyfredol.