Theresa May yn y Senedd fore Iau (Llun: PA Wire)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi cadarnhau fod ymosodwr San Steffan ddoe yn ddinesydd Prydeinig a bod yr heddlu’n ymwybodol ohono.

Datgelodd Theresa May yn ei haraith yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw fod yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch wedi cynnal ymchwiliadau iddo rai blynyddoedd yn ôl am eithafiaeth dreisgar.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ffigwr “ymylol” ac nad oedd yn rhan o’r “darlun cudd-wybodaeth gyfredol.”

Arestio 8

Mae’r Senedd yn San Steffan yn parhau â’u gwaith heddiw lle cafodd munud o dawelwch ei gynnal yno’r bore yma ac yn Senedd Bae Caerdydd.

Mi wnaeth Theresa May dalu teyrnged i’r heddwas Keith Palmer a fu farw ddoe gan ddweud: “roedd pob modfedd ohono’n arwr ac ni fydd ei weithredoedd yn cael eu hanghofio fyth.”

Hyd yn hyn mae wyth o bobol wedi cael eu harestio wedi i’r heddlu gynnal cyrchoedd yn Llundain a Birmingham dros nos.

Mae swyddog gwrthderfysgaeth Heddlu’r Met, Mark Rowley, wedi dweud ei fod yn credu i’r ymosodwr weithredu ar ei ben ei hun.

Dioddefwyr

Bellach mae un o aelodau’r cyhoedd a fu farw ddoe wedi’i henwi, sef Aysha Frade, dynes yn ei phedwardegau.

Cafodd 40 o bobol eu hanafu yn yr ymosodiad gyda 29 yn cael eu trin mewn ysbytai a saith yn parhau mewn cyflwr difrifol.

Ymhlith y rhai a anafwyd mae dwsin o wledydd Prydain, tri o blant o Ffrainc, dau o Romania, pedwar o Dde Corea, dau o wlad Groeg ac un o’r Almaen, Gwlad Pwyl, Iwerddon, China, Yr Eidal a’r Unol Daleithiau, ynghyd â thri swyddog yr heddlu.