Plismon yn gwarchod yn Westminster (Llun: Jonathan Brady/PA Wire)
Mae’r heddlu wedi arestio wyth o bobol mewn cysylltiad ag ymosodiad brawychol San Steffan.

Fe  gadarnhaodd prif swyddog gwrth-frawychiaeth Heddlu’r Met, Mark Rowley, bod cyrchoedd wedi eu cynnal mewn chwe chyfeiriad gwahanol dros nos – yn Llundain, Birmingham a llefydd eraill.

Yn ôl Mark Rowley, bu farw pedwar yn ystod yr ymosodiad – yr ymosodwr ei hun, y plismon Keith Palmer a gafodd ei drywanu; dynes yn ei 40au a dyn yn ei 50au yn ystod yr ymosodiad ar Bont Westminster.

Mae’n debyg bod 29 o bobol wedi eu trin mewn ysbytai a bod saith mewn cyflwr difrifol.

Yn ystod cyrch ar fflat yn Birmingham, dywedodd unigolyn wrth y Press Association: “Roedd y dyn o Lundain yn byw yn fan hyn.”