Theresa May
Bydd Aelodau Seneddol yn parhau â’u dyletswyddau yn San Steffan heddiw fel arfer, fel “arwydd o gryfder” yn dilyn ymosodiad prynhawn ddoe ar galon Llundain.

Fe niweidiodd ymosodwr â chyllyll tua 40 o bobol wrth yrru car i mewn i gerddwyr ar Bont Westminster cyn ei yrru wedyn ar ei ben i gatiau’r Palas ar lan afon Tafwys.

Unwaith yr oedd yng nghyntedd y Senedd, fe drywanodd blismon, cyn cael ei saethu gan heddlu arfog. Bu farw pump o bobol yn y digwyddiadau, yn cynnwys yr ymosodwr ei hun.

Dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, y byddai’r “Senedd yn cwrdd fel yr arfer” gan ategu “na fyddwn yn ildio i frawychiaeth”.

Yn ôl un Brif Swyddogion Scotland Yard mae swyddogion yn gwybod pwy yw’r ymosodwr a’r gred yw ei fod wedi’i ddylanwadu gan “derfysgaeth ryngwladol”.