Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn yr ymosodiad ger San Steffan y prynhawn yma, yn ôl Heddlu Llundain.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y digwyddiad yn cael ei drin fel un brawychol, a bod heddlu gwrth-frawychiaeth yn arwain yr ymchwiliad.

Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobol i gadw draw o Parliament Square, Whitehall, pont Westminster, pont Lambeth a nifer o ardaloedd cyfagos.

Maen nhw hefyd wedi gofyn am ddeunydd fideo neu ddelweddau o’r digwyddiad.

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau faint o bobol sydd wedi marw neu eu hanafu, ond fe ddaeth cadarnhad tua 5.30yp fod yr heddwas a gafodd ei drywanu wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau.

Dywed yr heddlu y bydd yr ymchwiliad yn cymryd “cryn amser”, a bod y Comisiynydd Dros Dro, Craig Mackey yn cael ei drin fel tyst i’r digwyddiad.