Mae’r plismon a gafodd ei drywanu ym Mhalas San Steffan, wedi marw, ynghyd â thri o bobol eraill.

Yn ôl adroddiadau, mae’r ymosodwr honedig wedi’i saethu gan yr heddlu. Mae’r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi cadarnhau fod deg o bobol wedi derbyn triniaeth yn y fan a’r lle, a bod myfyrwyr o Ffrainc ymhlith y bobol sy’n derbyn triniaeth mewn ysbyty cyfagos.

Mae fideo wedi ymddangos ar Twitter yn dangos pump o bobol yn gorwedd ar lawr ger pont Westminster, a’r gred ydi iddyn nhw gael eu taro gan gar Hyundai i40 ar y bont.

Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae gorsaf danddaearol Westminster ynghau am y tro.

Cafodd tair ergyd gwn eu clywed ger Palas Westminster ar ôl i ddyn redeg tuag at yr adeilad yn cario cyllell.

Cafodd dau o bobol eu gweld yn derbyn triniaeth ar lawr, ac fe laniodd ambiwlans awyr yn Parliament Square, sydd bellach ynghau i gerbydau.

Mae Stryd Downing wedi cadarnhau bod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn “iawn” ar ôl iddi gael ei gweld yn cael ei chludo i gefn car ac i ffwrdd o San Steffan.