Mae plismyn wedi’u targedu gan ffrwydriad yng Ngogledd Iwerddon.

Fe ffrwydrodd dyfais ger patrol gan yr heddlu yn Strabane, County Tyrone nos Fawrth.

Y gred ydi mai gwrthryfelwyr o’r adain weriniaethol sy’n gwrthwynebu’r broses heddwch, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad.

Fe ddigwyddodd ar yr un diwrnod ag y bu farw cyn-bennaeth yr IRA, Martin McGuinness.

Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon, roedd “lwc eithriadol” oedd i gyfri’ na chafodd neb ei ladd.