Barry Bennell (Llun: Wikipedia)
Mae’r cyn-hyfforddwr pêl-droed, Barry Bennell, wedi gwadu 20 o gyhuddiadau o gam-drin plant yn rhywiol.

Mae’r dyn 63 oed wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caer fore Mercher trwy gyfrwng linc fideo.

Roedd eisoes wedi gwadu wyth cyhuddiad, ond mae dwsin arall wedi’u hychwanegu atyn nhw erbyn heddiw.