Martin McGuinness, cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Llun: PA
Mae’r ymateb i farwolaeth cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon fu farw’n 66 oed wedi bod yn gymysg.
Mae Martin McGuinness yn cael ei gofio gan lawer fel un o brif arweinwyr yr ymgyrch heddwch yng Ngogledd Iwerddon gyda gwleidyddion o Gymru gan gynnwys y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn talu teyrnged iddo am ei gyfraniad i heddwch.
Ond roedd y gwleidydd Sinn Fein yn gymeriad oedd yn hollti barn, gyda rhai’n parhau i’w feirniadu am ei rôl gyda’r IRA pan oedd yn ail wrth y llyw adeg Bloody Sunday yn 1972 pan gafodd 14 o bobol eu lladd.
‘Cyfraniad i heddwch’
Ymhlith y rhai sydd wedi bod yn talu teyrnged iddo yw cyn-Brif Weinidog Prydain, Tony Blair, a ddywedodd ei fod yn ei edmygu am lwyddo i sicrhau Cytundeb Gwener y Groglith yn 1998 – carreg filltir yn yr ymgyrch heddwch.
Dywedodd ei fod yn “ddealladwy” na allai rai o’r teuluoedd a gollodd eu hanwyliaid yn ystod y Trafferthion faddau nac anghofio, ond dywedodd na fyddai’r cytundeb heddwch wedi’i arwyddo heb “arweinyddiaeth” Martin McGuinness.
“Byddaf yn ei gofio gyda diolch enfawr am y rhan chwaraeodd yn y broses heddwch a gyda hoffter gwirioneddol am y dyn y des i’w adnabod a’i edmygu am ei gyfraniad i heddwch,” meddai Tony Blair.
‘Terfysgwr diedifar’
Ond ymysg y teyrngedau am ei gyfraniad i heddwch mae un o weinidogion yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd wedi’i alw yn “derfysgwr diedifar.”
Roedd y Parchedig Ian Paisley, cyn-Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn un o sylfaenwyr Eglwys Bresbyteraidd Rydd Ulster, ac roedd ef a Martin McGuinness wedi meithrin perthynas agos yn ystod eu cyfnod yn Stormont.
Ond wrth siarad â Golwg360 dywedodd y Parchedig Nigel Smyth o Eglwys Bresbyteraidd Rydd Cephas ym Merthyr Tudful: “Ni wnaeth Martin McGuinness adael etifeddiaeth ysbrydol ar ei ôl. Roedd y dyn yn derfysgwr diedifar heb unrhyw gywilydd.”
Ychwanegodd: “Cafodd ei ddelwedd ei newid… o fod yn llofrudd i fod yn heddychwr. Yr unig beth oedd angen ar gyfer heddwch oedd bod pobol fel ef yn stopio gwneud yr hyn yr oedden nhw’n gwneud.”
Wrth gyfeirio at y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon a’r teuluoedd a gollodd anwyliaid, dywedodd y Parchedig Nigel Smyth nad oedd yn deall y berthynas a ddatblygodd rhwng Martin McGuinness ac Ian Paisley, gan ddweud: “sut wnaeth Ian Paisley gymodi â hynna, dw i ddim yn gwybod.”