Banc Lloegr Llun: PA
Mae cynnydd mwy na’r disgwyl wedi bod yng ngraddfa chwyddiant gan godi uwch ben targed Banc Lloegr o 2% ym mis Chwefror.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) sy’n mesur chwyddiant, wedi cyrraedd 2.3% fis diwethaf, o 1.8% ym mis Ionawr.

Dyma’r lefel uchaf ers mis Medi 2013.

Cynnydd mewn costau bwyd a thanwydd sy’n bennaf gyfrifol.

Mae’n debyg o roi pwysau ar Bwyllgor Polisi Ariannol y Banc (MPC) i godi cyfraddau llog yn uwch na 0.25% eleni.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, wedi codi i 3.2% ym mis Chwefror, o 2.6% ym mis Ionawr.