George Osborne Llun: PA
Mae’r cyn-Ganghellor George Osborne wedi amddiffyn ei benodiad fel golygydd i bapur newydd y London Evening Standard.

 

Ond mae ei benodiad wedi ennyn beirniadaeth a galwadau arno i roi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol Tatton.

 

Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw fod cael pobol â gwahanol brofiadau yn fodd i “wella” ar waith y Senedd ond ychwanegodd y byddai’n “gwrando” ar yr hyn oedd gan ASau eraill i’w ddweud am y penderfyniad.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf fod George Osborne yn cymryd yr awenau oddi wrth y golygydd presennol Sarah Sands gan ddechrau ym mis Mai.

Bydd yn golygu’r papur rhyw bedwar diwrnod yr wythnos, gan fynnu na fydd y swydd yn amharu ar ei gyfrifoldebau fel Aelod Seneddol.

Ond mae rhai yn codi cwestiynau am ei hawl i gynnal dwy swydd, ac mae hefyd wedi arwain at ystyriaeth i newid rheolau Aelodau Seneddol i gynnal dwy swydd.