Llun: PA
Fe fydd Theresa May yn tanio Erthygl 50 ar 29 Mawrth, cyhoeddodd Downing Street heddiw.

Fe fydd llythyr y Prif Weinidog, yn nodi bwriad y Deyrnas Unedig i ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd,  yn arwain at broses negydu dros gyfnod o ddwy flynedd  gyda Phrydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019.

Roedd llysgennad Prydain i’r Undeb Ewropeaidd, Syr Tim Barrow, wedi rhoi gwybod i lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, ddydd Llun ynglŷn â chynlluniau’r Prif Weinidog.

Daw’r cyhoeddiad ar ol i Fesur Brexit gwblhau ei daith drwy’r Senedd wythnos ddiwethaf cyn derbyn cydsyniad brenhinol gan ganiatau i’r Prif Weinidog ddechrau’r broses.

Yn y cyfamser mae Downing Street wedi wfftio awgrymiadau y bydd Theresa May yn cynnal etholiad cyffredinol cynnar.

Cyngor Ewropeaidd

Mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno canllawiau drafft Brexit i’r 27 gwlad arall o fewn 48 awr cyn i’r Deyrnas Unedig danio Erthygl 50.

A daw’r cyhoeddiad heddiw wedi i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean Claude-Juncker, rybuddio efallai y byddai’n rhaid i Brydain adael heb gytundeb masnach os ydyn nhw’n gwrthod telerau’r Undeb Ewropeaidd sy’n cynnwys “bil gwahanu” o hyd at £50 biliwn.

Ymateb pleidiau

Mewn ymateb mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain o “ruthro drwodd heb gynllun a heb syniad.”

“Mae Theresa May yn cychwyn ar Brexit eithafol a rhanedig,” meddai gan ddweud y dylai pleidleiswyr gael y gair olaf ar y cytundeb gan ddadlau nad oedd gadael y Farchnad Sengl ar y papur pleidleisio ym mis Mehefin.

Er hyn mae arweinydd Ukip, Paul Nuttall, wedi dweud y byddan nhw’n “sicrhau fod y Prif Weinidog yn trosglwyddo Brexit glân gyda ffiniau cryf.”

Ac mae un o Weinidogion Llywodraeth yr Alban, Michael Russell, wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o beidio â rhoi gwybod i’r gweinyddiaethau datganoledig o flaen llaw pa ddyddiad y byddai’n tanio Erthygl 50.