Jeremy Corbyn Llun: PA
Fe allai dyfodol Llafur fod mewn perygl, rhybuddiodd dirprwy arweinydd y blaid Tom Watson yn sgil honiadau bod cefnogwyr adain chwith Jeremy Corbyn yn cynllwynio i gymryd rheolaeth o’r blaid mewn cytundeb cyfrinachol gyda phennaeth undeb Unite Len McCluskey.
Dywedodd Tom Watson ei fod yn amlwg bod y bygythiad yn un difrifol ar ôl i recordiad ddod i’r amlwg o sylfaenydd y grŵp ymgyrchu Momentum – a fu’n cynorthwyo Jeremy Corbyn i ddod yn arweinydd y blaid – yn trafod y posibilrwydd o gael cefnogaeth Unite.
Honnir bod Jon Lansman wedi dweud wrth gefnogwyr ei fod yn disgwyl i’r undeb – ynghyd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) – i ymuno a Momentum petai Len McCluskey yn ennill ei frwydr i gael ei ail-ethol yn ysgrifennydd cyffredinol Unite.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4, fe rybuddiodd Tom Watson y gallai hynny “ddinistrio” Llafur ac y byddai’n codi’r mater gyda Jeremy Corbyn.
Mae Momentum wedi mynnu nad oes unrhyw gynlluniau cyfredol i Unite ymuno gyda nhw ac nad oedd wedi derbyn unrhyw arian o goffrau’r undeb.
Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell yn honni bod sylwadau Tom Watson yn ymgais i ddylanwadu ar y gystadleuaeth am arweinyddiaeth Unite.
“Yr hyn mae’n ceisio ei wneud yw dylanwadu ar y bleidlais i ethol ysgrifennydd cyffredinol Unite ac mae wedi llusgo’r Blaid Lafur i mewn i hyn, yn hollol ddianghenraid.”