Y Fonesig Vera Lynn sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed (Llun: Zak Hussein/PA Wire)
Mae rhai o sêr y byd teledu wedi bod yn rhoi teyrngedau i’r Fonesig Vera Lynn wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 100 oed.

Roedd y Fonesig Very Lynn wedi ysbrydoli milwyr a’u teuluoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda’i chaneuon fel The White Cliffs Of Dover.

Mae’r gantores wedi rhyddhau albwm newydd o’i chaneuon Vera Lynn 100.

Fe fydd llun ohoni yn cael ei ddangos ar greigiau Dofr fel rhan o’r dathliadau i nodi ei phen-blwydd.

Wrth iddo ei llongyfarch ar ei phen-blwydd, dywedodd yr actor Syr Patrick Stewart, 76 oed, ei fod yn falch iawn o fod yn un o’i chefnogwyr.

A dywedodd y darlledwr Eamonn Holmes bod ei gyfweliadau gyda’r gantores bob amser yn “anrhydedd ac yn bleser.”