Mae Heddlu Scotland Yard wedi enwi’r dyn maen nhw’n chwilio amdano fe yn dilyn marwolaeth plentyn blwydd oed mewn fflat yng ngogledd Llundain.

Cafwyd hyd i fachgen a merch blwydd oed mewn fflat yn Finsbury Park yng ngogledd Llundain, ond bu farw’r bachgen yn ddiweddarach.

Mae’r ferch mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n chwilio am Bidhya Sagar Das, 33, ar ôl iddo ffoi, ac mae ymchwiliad i lofruddiaeth y bachgen wedi dechrau.