A yw Nicola Sturgeon yn colli tir? (Llun: Llywodraeth Agored)
Mae llai o bobol o blaid annibyniaeth i’r Alban nag yn 2014, yn ôl pôl piniwn newydd.
Daw’r pôl gan Panelbase ar gyfer y Sunday Times ac LBC ddyddiau’n unig ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ddatgan ei bwriad i alw ail refferendwm o fewn dwy flynedd.
Yn ôl y pôl, dim ond 44% sydd o blaid annibyniaeth erbyn hyn, un pwynt yn is na phôl tebyg a gafodd ei gynnal adeg y refferendwm cyntaf dair blynedd yn ôl.
Dywedodd 56% o’r 1,008 o Albanwyr a gafodd eu holi y bydden nhw’n pleidleisio tros aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig mewn ail refferendwm.
Cafodd y pôl ei gynnal rhwng dydd Llun a dydd Gwener diwethaf.
Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May eisoes wedi dweud nad “nawr yw’r amser” i gynnal refferendwm annibyniaeth.
Canlyniadau
Dywedodd 51% o’r rheiny a gafodd eu holi eu bod nhw’n cytuno â safbwynt Theresa May, gan ddweud nad ydyn nhw’n dymuno cynnal refferendwm yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd 32% eu bod nhw’n cefnogi cynnal refferendwm yn ystod trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod 18% wedi dweud bod yn well ganddyn nhw aros tan ar ôl i’r trafodaethau gael eu cwblhau.
Ond fe ddywedodd 44% eu bod nhw’n disgwyl i refferendwm gael ei gynnal o fewn pump i ddeng mlynedd.
‘Dim llwyddiant o gwbl’
Yn ôl yr Athro John Curtice o Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Ystrad Clud: “Dydy’r Prif Weinidog [Nicola Sturgeon] ddim wedi cael llwyddiant o gwbl wrth geisio lleihau’r gwrthwynebiad i gynnal unrhyw fath o refferendwm yn sgil Brexit.
“Mae gan yr ochr Ie gryn dipyn o dir i’w ennill eto. Efallai mai rhagor o amser i ddadlau ei hachos yw’r union beth sydd ei eisiau ar Nicola Sturgeon.”
Dywedodd 47% o’r rheiny a gafodd eu holi y bydden nhw’n pleidleisio dros yr SNP yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Pôl yr Independent
Yn y cyfamser, mae pôl ar ran yr Independent yn dangos bod 44% o Albanwyr yn cytuno y dylai Theresa May fynnu bod ail refferendwm yn gorfod aros tan ar ôl i’r trafodaethau ynghylch yr Undeb Ewropeaidd ddod i ben.
Dywedodd 48% eu bod nhw’n anghytuno, tra bod 8% yn ansicr.
Cafodd y pôl hwnnw ei gynnal gan ComRes rhwng Mawrth 15 a 17.