Mae Llywodraeth gwledydd Prydain wedi cael gwared â’u hysbysebion ar YouTube oherwydd pryderon eu bod yn ymddangos ochr yn ochr â deunydd eithafol.

Mae papur y Guardian a Channel 4 hefyd wedi tynnu’r plwg ar eu hysbysebion yn sgil ymchwiliad gan y Times, ac mae’n debyg bod eraill yn ystyried gwneud yr un fath.

Bydd Swyddfa’r Cabinet yn gosod cyfyngiadau dros dro ar yr hysbysebion tan fydd eu negeseuon yn medru cael eu cyflwyno mewn ffordd “ddiogel” a dywedodd y Guardian bod y sefyllfa’n “hollol annerbyniol”.

Mae Ronan Harris, Rheolwr Gyfarwyddwr Google – sef y cwmni sydd yn berchen YouTube – wedi dweud bydd  y cwmni yn newid sut fydd hysbysebion yn ymddangos mewn fideos.

Yn ôl y Times, mae pobol wrth-semitig a phregethwyr casineb yn derbyn arian o hysbysebion ar YouTube sydd wedi cael eu hariannu gan y trethdalwr.