Mae’r cyn-Ganghellor George Osborne wedi cael ei apwyntio yn olygydd newydd papur y London Evening Standard.
Trydarodd Perchennog yr Evening Standard, Evgeny Lebedev, ei fod yn hapus i gyflwyno George Osborne fel y golygydd newydd gan ei alw’n “olygydd o safon”.
Bydd George Osborne yn cymryd lle’r golygydd presennol, Sarah Sands, sydd yn gadael wedi pum mlynedd o ddal y swydd i ymuno â’r BBC.
Bydd yn cychwyn yn ei swydd newydd ar ddechrau mis Mai gan olygu’r papur rhyw bedwar diwrnod yr wythnos, ac mae’r papur wedi mynnu na fydd y swydd yn amharu ar ei gyfrifoldebau yn Aelod Seneddol.
Mae George Osborne wedi dweud bod y penodiad yn “anrhydedd” ac fel golygydd mae’n gobeithio herio a “beirniadu’r hyn mae’r Llywodraeth, gwleidyddion Llundain a phleidiau gwleidyddol yn gwneud”.
Fe gollodd George Osborne ei swydd yn Ganghellor y Deyrnas Unedig pan ddaeth Theresa May yn Brif Weinidog flwyddyn ddiwethaf.