RSS

Golwg360

MwyCau 

Mesur Brexit yn derbyn y fendith frenhinol

Mawrth 16, 2017 14:09 Diweddarwyd Mawrth 20, 2017 12:04


Mae’r Frenhines Elizabeth wedi arwyddo’r dogfennau sy’n arwain at danio Erthygl 50, gan alluogi Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May i ddechrau trafodaethau Brexit.

Fe ddaeth bloedd o gymeradwyaeth gan Aelodau Seneddol y blaid Geidwadol pan gyhoeddodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow,  bod y ddeddf wedi derbyn cydsyniad brenhinol.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, mi fydd Theresa May yn dechrau prosesau Erthygl 50 yn ffurfiol cyn diwedd mis Mawrth.

Mae proses Erthygl 50, sef y mecanwaith ffurfiol ar gyfer tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, yn nodi bod gan y Deyrnas Unedig gyfnod o ddwy flynedd i adael yr undeb.

Dim newid

Llwyddodd y Llywodraeth i basio’r mesur heb newidiadau er gwaethaf gwrthwynebiad gan Dŷ’r Arglwyddi.

Mae’r blaid Lafur wedi addo parhau â’r frwydr i amddiffyn hawliau dinasyddion o’r Undeb Ewropeaidd sydd yn byw yn y Deyrnas Unedig er iddyn nhw fethu ag ychwanegu newidiadau i’r mesur.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.