Mae dau ddyn wedi’u harestio gan yr heddlu sy’n ymchwilio i lofruddiaeth unoliaethwr amlwg yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd George Gilmore, 44, yn gyrru ei gar pan gafodd ei saethu yn ei wddw yn Carrickfergus brynhawn Llun. Bu farw yn yr ysbyty ddydd Mawrth.

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau fod y rheiny sydd wedi’u harestio yn cael eu dal yn ardal Belffast.

Fe gafodd y dynion, 35 a 28 oed, eu cymryd i’r ddalfa yn Musgrave, lle maen nhw’n parhau i gynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.