Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud na ddylai San Steffan geisio rhwystro’r Alban rhag cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth ond dywedodd y gallai fod yn “drychinebus”.

Wrth i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, baratoi i gyflwyno “araith bwysig” heddiw, gyda dyfalu y gallai amlinellu ei chynlluniau ar gyfer ail refferendwm, mae’r arweinydd Llafur wedi mynnu nad yw o blaid cynnal pleidlais arall.

Roedd ’na wrthwynebiad chwyrn ymhlith Aelodau Seneddol Llafur ar ôl i Jeremy Corbyn ddweud wrth y Press Asociation yn yr Alban nad oedd yn erbyn cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban.

Wrth iddo geisio egluro’i hun ddydd Lun, dywedodd wrth raglen BBC Radio 4, Today, y byddai’n “anghywir” i Senedd San Steffan atal pleidlais arall os oedd Senedd yr Alban o blaid.

Ond ychwanegodd: “Gadewch i ni fod yn hollol glir, dw i ddim yn meddwl y dylid cynnal refferendwm arall, dw i’n credu y byddai annibyniaeth yn drychinebus yn economaidd i nifer o bobl yn yr Alban,” a hynny oherwydd “lefelau’r incwm sydd gan y llywodraeth yn yr Alban a phrisiau olew isel a’r ddibyniaeth ar incwm olew,” meddai.

Mae Nicola Sturgeon yn awyddus i gadw’r Alban yn y farchnad sengl sy’n groes i gynlluniau’r Prif Weinidog Theresa May am “Brexit caled.”