Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin (Llun: PA)
Mae gwasanaeth cudd-wybodaeth GCHQ wedi rhybuddio bod Rwsia’n peryglu democratiaeth.

Fe fydd seminarau’n cael eu cynnal er mwyn addysgu am y peryglon o du’r Kremlin ar ôl i ysbïwyr gael eu cyhuddo o ymosod ar systemau cyfrifiadurol adeg etholiadau’r Unol Daleithiau a’r Almaen.

Mae prif weithredwr GCHQ, Ciaran Martin wedi ysgrifennu at arweinwyr prif bleidiau gwleidyddol Prydain yn cynnig cyngor, yn ôl y Sunday Times.

Ym mis Chwefror, dywedodd Ciaran Martin fod 188 o ymosodiadau wedi digwydd yn erbyn diogelwch cenedlaethol gwledydd Prydain yn ystod y tri mis blaenorol.

‘Dim tystiolaeth’

Ond yn ôl Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson, does “dim tystiolaeth” fod y Rwsiaid yn “tanseilio prosesau democrataidd”.

Ond dywedodd wrth raglen Peston on Sunday ar ITV fod “digon o dystiolaeth fod gan y Rwsiaid y gallu i wneud hynny”.