Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur Llun: PA
Mae Llafur yn barod ar gyfer ail frwydr yn erbyn annibyniaeth i’r Alban, yn ôl Jeremy Corbyn, sy’n dweud na fyddai ganddo unrhyw wrthwynebiad i refferendwm arall.

Dywed arweinydd Llafur na ddylai senedd San Steffan geisio rhwystro refferendwm arall ar annibyniaeth os yw Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn mynnu galw un.

Daw ei sylwadau wrth i Nicola Sturgeon ddweud bod pleidlais o’r newydd yn “debygol iawn” ar ôl i’r Albanwyr bleidleisio trwy fwyafrif mawr i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Er bod arweinydd Llafur yn yr Alban, Kezia Dugdale, wedi dweud ei bod yn llwyr wrthwynebu refferendwm arall ar annibyniaeth, meddai Jeremy Corbyn:

“Dw i ddim yn meddwl mai job San Steffan na’r Blaid Lafur yw rhwystro pobl rhag cynnal refferenda, a phetai pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin ar refferendwm arall ar annibyniaeth, fyddai Llafur ddim yn ei rwystro.”