Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson yn cyfiawnhau’r gyllideb ar ran y Canghellor Philip Hammond mewn dadl yn y senedd ddydd Llun.

Fe fydd yn ymateb ar ran y llywodraeth i gwestiynau a sylwadau Aelodau Seneddol wrth drafod y gyllideb yng nghyd-destun ‘lle Prydain yn y byd’.

Er ei fod yn cael ei gyfrif i fod yn un o gyfathrebwyr gorau’r llywodraeth, mae disgwyl iddo wynebu cwestiynau caled am y penderfyniad i gynyddu taliadau yswiriant gwladol ar bobl hunan-gyflogedig.

Mae’r bwriad wedi achosi ffrae gynyddol o fewn y Blaid Geidwadol.

Ymhlith y rhai sy’n anfodlon â’r cynllun mae’r Gweinidog Gwladol yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, sy’n dweud y dylai’r llywodraeth ymddiheuro am dorri addewid maniffesto, a’r cyn-ganghellor Norman Lamont.