Jeremy Corbyn (llun: PA)
Does gan y Torïaid na’r SNP ddim diddordeb mewn mynd i’r afael â’r annhegwch yn yr economi, yn ôl arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Mae ef a Changhellor yr Wrthblaid, John McDonnell, yn Glasgow heddiw, i geisio denu cefnogaeth i Lafur yn yr Alban yn yr etholiadau i gynghorau lleol ym mis Mai.

“Mae cyllideb gyntaf Theresa May wedi dangos difaterwch llwyr ei llywodraeth, ac mae’n amlwg fod arnom angen newid sylfaenol,” meddai Jeremy Corbyn.

“Economi sylfaenol annheg yw hon, nad oes ar y Torïaid na’r SNP eisiau ei newid.

“Mae hyn yn anghyfiawn ac yn anfoesol gan fod pobl yn marw o ganlyniad i’r system.”

Mae disgwyl iddo ymweld â’r Alban yn gyson dros yr wythnosau nesaf er mwyn ceisio hyrwyddo poblogrwydd Llafur yno.

Mewn ymateb i’w sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran yr SNP:

“Methiant llwyr Llafur i gynnig gwrthwynebiad ystyrlon sy’n gadael i Theresa May dorri ymrwymiadau ei maniffesto a dilyn Brexit caled – wnawn ni ddim cymryd unrhyw wersi gan Lafur ar sefyll yn erbyn llymder.”