Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu dirwy o £1.7 biliwn oherwydd methiant y Llywodraeth i atal gangiau Tseiniaidd rhag defnyddio’r wlad i guddio arian twyll.

Am flynyddoedd mae dillad ac esgidiau wedi bod yn cael eu mewnforio trwy’r Deyrnas Unedig am brisiau isel er mwyn osgoi tollau, yn ôl Swyddfa Gwrth-Dwyll Ewrop (OLAF).

Mae’r cynllun twyll wedi arwain at golled o €2 biliwn i’r Undeb Ewropeaidd dros dair blynedd, ac mae OLAF wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i orfodi’r Deyrnas Unedig i dalu’r arian yn ol.

Yn ôl ymchwilwyr yr Undeb Ewropeaidd, cafodd Adran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi ei rhybuddio sawl gwaith ynglŷn â’r cynllun twyll, ond wnaethon nhw “fethu ymdrin â’r mater mewn modd ddigon llym”.

“Newydd dderbyn yr adroddiad ydan ni,” meddai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May. “Dydi’r ffigurau ddim yn gyfarwydd i ni. Ar hyn o bryd, maen nhw’n cael eu harchwilio gan Adran Cyllid a Thollau ei Mawrhydi,”