Mae dau o bobol wedi’u lladd mewn achos o drywanu yn Wolverhampton.

Fe ddefnyddio Heddlu’r West Midlands granêds i gael myediad i fflat lle’r oedd dyn â chyllell yn ymosod ar ddwy ddynes ben bore Mercher.

Bu farw dynes yn ei 30au yn y digwyddiad yn ardal Merry Hill, a bu farw dyn yn ei 30au yn ddiweddarach.

Mae ail ddynes, yn ei 50au, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty o ganlyniad i anafiadau i’w stiumog, ac mae swyddog o’r heddlu wedi cael mân anafiadau.