George Michael
Fe wnaeth y canwr pop, George Michael farw o achosion naturiol, meddai’r crwner heddiw.

Cafodd y canwr ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Sir Rhydychen ar Ddydd Nadolig y llynedd.

Bu farw oherwydd afiechyd y galon â phroblemau â’i iau, afiechydon sydd yn aml yn gysylltiedig â chamddefnydd o gyffuriau ac alcohol.

Roedd wedi dioddef o broblemau iechyd a chyffuriau ers blynyddoedd.

Daeth y canwr 53 oed i amlygrwydd fel prif leisydd y grŵp Wham!,  gan werthu 100 miliwn o albymau yn ystod ei yrfa.

Roedd yn enwog am ganeuon gan gynnwys ‘Last Christmas’ a ‘Freedom’.

Yn ôl uwch grwner Sir Rhydychen, Darren Salter, ni fydd ymchwiliad pellach yn dilyn yr archwiliad post mortem terfynol, ac ni fydd cwest yn cael ei gynnal oherwydd bu’r canwr farw o achosion naturiol.