Paul Nuttall (Llun: golwg360)
Mae arweinydd Ukip, Paul Nuttall wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o’i bardduo tros helynt trychineb Hillsborough.

Mae’r Blaid Lafur yn amau ei honiadau ei fod e yn y cae yn Sheffield ar ddiwrnod un o’r trychinebau gwaethaf yn hanes y byd pêl-droed ar Ebrill 15, 1989.

Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl ar y diwrnod hwnnw, ac mae Paul Nuttall yn dweud ei fod e a’i ffrindiau ymhlith cefnogwyr Lerpwl yn y stadiwm, ac y byddai’n fodlon dweud hynny mewn llys barn.

Cafodd ei orfodi cyn is-etholiad Stoke i ddweud bod honiadau am drychineb Hillsborough ar ei wefan yn anghywir.

Ymgais bwriadol i bardduo

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Roedd yna ymgais bwriadol i’m pardduo, ac ro’n i’n ymwybodol o hynny ers mis Rhagfyr, gan ddweud nad o’n i yn Hillsborough mewn gwirionedd.”

Ond fe wrthododd ddweud yn uniongyrchol ar ddechrau’r cyfweliad mai’r Blaid Lafur oedd yn gyfrifol, cyn ychwanegu: “Ydw, dw i yn [sôn am y Blaid Lafur]. Ydw, mi ydw i, iawn?

“Fe wnaethon nhw awgrymu nad o’n i yn Hillsborough, mewn gwirionedd.

“Fe wnes i ddarparu datganiadau fel tyst, dw i wedi rhoi tystiolaeth i Operation Resolve a dw i’n barod i sefyll fel tyst mewn llys barn.”

Galwodd am “berspectif” ar y mater.