Mae gyrrwr wedi’i arestio yn dilyn marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M20. Y gred yw fod un car yn teithio i’r cyfeiriad anghywir.

Mae adroddiadau’n honni fod cerbyd Toyota Corolla yn gyrru i’r cyfeiriad anghywir ar yr M20 yng Nghaint, pan darodd Volkswagen Touareg toc wedi 3.30yb ddydd Sadwrn.

Bu farw dyn oedd yn teithio yn y Corolla yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Kent wedi cadarnhau fod y gyrrwr – syn 37 oed o Orpington yn ne-ddwyrain Llundain – wedi’i arestio a’i ddwyn i’r ddalfa.